Gweithdai wedi’u Hariannu’n Llawn

Diolch i gyllid gan y Loteri Genedlaethol, rydym yn falch o gynnig cyfle i nifer cyfyngedig o ysgolion ar draws Conwy, Ynys Môn a Gwynedd gymryd rhan yn ein rhaglen addysg amgylcheddol tair rhan – sydd werth dros £500 – yn hollol rhad ac am ddim.

Nod y prosiect yw gwneud addysg amgylcheddol ddiddorol yn fwy hygyrch i ysgolion, yn enwedig y rhai sydd efallai â chyfleoedd cyfyngedig i gael profiadau addysgol allanol.

Rhoddir blaenoriaeth i ysgolion lle mae cyllid yn rhwystr i gael mynediad at y math hwn o ddarpariaeth. Ystyriwch ddarpariaeth bresennol a sefyllfa ariannol eich ysgol wrth gyflwyno datganiad o ddiddordeb.

Mae ein rhaglen yn addas ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, ar gyfer plant a phobl ifanc 6 oed a hŷn.

Mae’r gyfres yma’n rhoi cyfle i gyfranogwyr adeiladu ar eu gwybodaeth dros sawl diwrnod, cydweithio ar dasgau ymarferol a meddwl am gamau cadarnhaol i’w cymryd i gael effaith ar yr amgylchedd.

Cyfres Tair Rhan 

Cyflwyniad

Cyflwyniad awr o hyd Maint y Grŵp: Unrhyw faint

Byddwn yn dod i’ch ysgol ac yn cynnal cyflwyniad llawn gwybodaeth yn sôn am ble mae ein gwastraff yn mynd, gydag enghreifftiau o’n proses ailgylchu dan un to ni, systemau gwastraff cynghorau lleol a’r darlun byd-eang.

Byddwn yn edrych ar bynciau pwysig fel yr economi gylchol a hierarchaeth gwastraff. Mae’r sesiynau’n cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol a fideos ac yn dangos sut rydym wedi creu pethau hardd o wastraff.

Gweithdy Rhyngweithiol

2 - 2:30 awr Maint y grŵp: Tua 30

Yn y sesiwn ymarferol hon, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i fod yn rhan o’r system ailgylchu o’r dechrau i’r diwedd. Gyda help ein peiriannau llaw cludadwy, bydd myfyrwyr yn sortio, nodi, darnio, toddi a throi plastig yn eitemau ailgylchadwy iddynt fynd adref gyda nhw.

Byddwn yn ystyried a yw plastig yn wirioneddol wych ac yn dysgu rhagor am ddylunio cynnyrch cynaliadwy. Erbyn diwedd y gweithdy, bydd y grŵp wedi dechrau meddwl am y camau y gallant eu cymryd i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.

Sesiwn fyfyrio ar-lein

Galwad ar-lein am awr Maint y Grŵp: sesiwn ddilynol gyda’r un dosbarth

Ar ôl i'r cyfnod penodol y cytunwyd arno fynd heibio (tua 1-2 mis), byddwn yn cynnal sesiwn ddilynol gyda’r dosbarth ar y we i roi cyfle i’r disgyblion fyfyrio ar yr hyn maen nhw wedi ei ddysgu yn y sesiynau. 

Byddwn yn chwarae gemau ac yn cael cwis hwyliog, yn ogystal â rhannu’r camau y mae’r dosbarth wedi’u cymryd yn yr ysgol neu yn y gymuned ehangach i gael effaith gadarnhaol ar y blaned.


FAQ

Expression of Interest Form

Thank you for your interest in our free environmental education programme. Please complete the short form below to tell us a little about your school and why you would like your class to take part.

We look forward to hearing from you!