FFURFLEN ARCHEBU DIGWYDDIAD 

DEFNYDDIWCH Y FFURFLEN HON I OFYN AM WEITHDY NEU GYFLWYNIAD AR GYFER EICH YSGOL, COLEG, PRIFYSGOL, GRŴP STAFF, CWMNI NEU SEFYDLIAD CYMUNEDOL.

Cwblhewch y ffurflen a bydd un o'n tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.

CYN Y DIWRNOD

CADARNHAD

*Noder nad yw eich archeb wedi'i chwblhau hyd nes i chi gael e-bost yn cadarnhau’r dyddiad ac amser.

Paratoi

Nid oes angen profiad blaenorol ar gyfranogwyr, nac unrhyw waith paratoi cyn y gweithdy.  

CANSLO / NEWIDIADAU:

Rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl os oes unrhyw newidiadau munud olaf i'r dyddiad, amser, neu nifer y cyfranogwyr.

Dogfennau Iechyd a diogelwch

Mae ein tîm yn dilyn yr holl weithdrefnau iechyd, diogelwch a diogelu perthnasol. Gellir darparu dogfennau ategol ar gais.

Ar y Dydd

CYRRAEDD A GOSOD

  • Bydd angen ystafell addas arnom ar gyfer maint y dosbarth, gydag o leiaf 4–5 bwrdd neu ddesg ar gael.

  • Bydd angen sgrin ddigidol, neu daflunydd, i gysylltu ein gliniadur.

  • Bydd ein tîm yn cyrraedd awr cyn y sesiwn i osod.

  • Mae llawer o weithdai yn cynnwys llawer o offer, felly mae’n well gennym aros mewn un ystafell am sesiynau sy’n dilyn ei gilydd.

  • Os nad yw'r sesiwn ar y llawr gwaelod, gwnewch yn siŵr bod y lifft ar gael i ni symud offer trwm.

  • Er mwyn hwyluso’r llif gwaith, diogelwch, ac i wneud dechrau'r sesiwn yn fwy cyffrous, gofynnwn i gyfranogwyr aros y tu allan i'r ystafell tra byddwn yn gosod.


GORUCHWYLIAETH A DIOGELWCH CYFRANOGWYR

Er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y mwyaf o'r diwrnod, dylai athrawon neu oedolyn cyfrifol oruchwylio cyfranogwyr o dan 18 oed bob amser a helpu i annog ymddygiad cadarnhaol o fewn eich grŵp.

Mae rhai o'n gweithdai yn cynnwys peiriannau neu offer rhyngweithiol. Mae ein staff addysg yno i wneud y profiad yn ddiogel ac yn bleserus. Gwnewch yn siŵr bod cyfranogwyr:

  • Yn gwrando’n ofalus ar bob cyfarwyddyd gan ein staff.

  • Yn defnyddio’r offer yn gyfrifol.

  • Yn trin deunyddiau ac adnoddau yn ofalus fel y gall grwpiau yn y dyfodol eu mwynhau hefyd.


Os oes gennych unrhyw gwestiynau am archebu, gallwch anfon e-bost neu adael eich rhif i ofyn am alwad ffôn. 

Bydd ein Swyddog Addysg ac Allgymorth yn hapus i roi galwad i chi ar amser cyfleu